Grŵp 6: Is-grwpiau’r CPG (Gwelliant 3)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:14 pm ar 7 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 6:14, 7 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Pwrpas y gwelliant hwn yw diwygio adran 9 o'r Bil, sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer yr is-grŵp caffael cyhoeddus. Bydd hyn yn ychwanegu gofyniad i Weinidogion Cymru lunio canllawiau y mae'n rhaid i'r cyngor partneriaeth gymdeithasol roi sylw iddyn nhw wrth benodi aelodau i'w is-grŵp caffael cyhoeddus. Yn benodol, rhaid i'r canllawiau hynny gynnwys gofynion ynghylch cyfansoddiad yr is-grŵp i sicrhau bod ei aelodaeth yn gynrychioliadol o'r gwahanol sectorau a fydd yn cael eu heffeithio gan y dyletswyddau caffael. 

Mae pryderon wedi eu mynegi i mi gan grwpiau o fewn y trydydd sector y gallen nhw gael eu gwahardd o drafodaethau allai wir elwa o'u harbenigedd. Mae angen i ni sicrhau bod dull o gynnwys arbenigedd o'r fath a sicrhau bod lleisiau'n cael eu clywed yn yr ystafell yn ystod y trafodaethau perthnasol. Yn ei hanfod, bydd hyn yn atgyfnerthu ymgysylltiad y sectorau sydd wedi'u crybwyll uchod o fewn nodau cyffredinol y Bil, yn ogystal â thryloywder gwneud penderfyniadau. Rwy'n edrych ymlaen at wrando ar yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud ar hyn, a hoffwn gynnig y gwelliant.