Grŵp 7: Dyletswydd partneriaeth gymdeithasol (Gwelliant 43)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 7 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 6:21, 7 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae adran 16 y Bil yn sefydlu dyletswydd partneriaeth gymdeithasol statudol sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i gyrff cyhoeddus, i'r graddau y mae'n rhesymol, geisio consensws neu gyfaddawd, yn bennaf gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig, wrth osod a chyflawni eu hamcanion llesiant o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Pan nad oes gan gorff cyhoeddus undeb llafur cydnabyddedig, mae'n rhaid iddo geisio consensws neu gyfaddawd gyda chynrychiolwyr eraill ei staff. Nid yw'r Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol dod i'r cytundeb hwnnw. Mae'r gwelliant hwn yn ddiangen felly. Mae'n ceisio mynd i'r afael â phroblem nad yw'n bodoli, ac ni fydd y Llywodraeth yn ei gefnogi. Diolch.