Grŵp 11. Cofrestr gontractau (Gwelliannau 10, 11)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:57 pm ar 7 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 6:57, 7 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diben gwelliannau 10 ac 11 yw diwygio adran 40, sy'n nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i awdurdodau contractio ei chynnwys yn eu cofrestr gontractau. Effaith y gwelliannau hyn, eto, fel y soniais eisoes o ran y rhai a gyflwynwyd ynghylch adran 27, yw diogelu adran 40 at y dyfodol drwy ychwanegu grym gwneud rheoliadau tebyg a fydd yn galluogi Gweinidogion i ddiwygio'r rhestr o ofynion pe bai angen. Yn ogystal â'r data sy'n cael eu casglu o ganlyniad i'r gwelliant a gytunwyd yn y grŵp blaenorol ar adroddiadau caffael cymdeithasol gyfrifol blynyddol, rydym ni'n rhagweld y dylid defnyddio'r gofrestr gontractau, er mai ei phrif ddiben yw tryloywder, i ofyn am ddata ychwanegol gan gyflenwyr. Dywedwch pe bai'n dod i'r amlwg i Weinidog yn y dyfodol mewn Llywodraeth yn y dyfodol bod angen data penodol i fwrw ymlaen ymhellach â'n huchelgeisiau i gefnogi'r gwerth sy'n cael ei ychwanegu at economi Cymru o gaffael, yna gellid gwneud y ddadl honno i'r Senedd. Fel gyda llawer o'r gwelliannau yr wyf i wedi eu cyflwyno heddiw, mae hwn yn ymwneud â sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn addas i'r diben y tu hwnt i flwyddyn neu ddwy gyntaf ei hoes. Rwy'n gobeithio mai dyma farn y rhan fwyaf ohonom ni heddiw. Diolch yn fawr.