Part of the debate – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 7 Mawrth 2023.
Trefnydd, rwy'n nodi sylwadau diweddar y Gweinidog iechyd ynghylch ei hanallu yn ôl y gyfraith i ddiswyddo aelodau gweithredol bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, ac mae hi'n ymddangos bod goblygiad yn hynny y byddai'r Gweinidog wedi eu diswyddo nhw pe byddai'r pwerau ganddi hi i wneud felly. Felly, a gaf i ofyn, Trefnydd, a wnewch chi gadarnhau y bydd y Senedd yn ystyried unrhyw fusnes yn fuan o ran rhoi'r pŵer i Weinidogion ddiswyddo aelodau gweithredol ar y cyd â chadeiryddion y byrddau iechyd?