Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 7 Mawrth 2023.
Diolch yn fawr. Diolch i gyd-Aelodau am eu sylwadau yn y ddadl hon. Fe wnaf ymateb i rai o'r materion penodol gafodd eu codi. Wrth gwrs, codwyd y diddordeb mewn cronfeydd wrth gefn y prynhawn yma, ac wrth gwrs, mae lefel cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol yn fater i'r aelodau etholedig lleol hynny. Byddant wrth gwrs yn adlewyrchu'r cynlluniau tymor hwy hynny yn ogystal â'u hymdrechion i reoli pwysau tymor byr. Mae pob awdurdod lleol wedi adrodd am fwy o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio fel ym mis Mawrth 2022 o'i gymharu â'r mis Mawrth blaenorol, ond mae awdurdodau lleol bellach wedi bod yn tynnu ar y cronfeydd wrth gefn hynny o fewn y flwyddyn ariannol hon i geisio ymateb i rywfaint o bwysau chwyddiant. Rwy'n gwybod bod rhai hefyd yn bwriadu defnyddio rhai yn y flwyddyn i ddod fel rhan o'u cynllunio ariannol tymor canolig.
Efallai fod amryw o resymau dros y cynnydd rydyn ni wedi'i weld; er enghraifft, mae awdurdodau lleol wedi wynebu llawer o heriau gyda rhaglenni cyfalaf o ganlyniad i'r ymyrraeth a'r oedi parhaus oherwydd COVID. Mae hynny'n golygu y gallai rhai grantiau cyfalaf gael eu cadw mewn cronfeydd wrth gefn, neu gyllid hunan-gynhyrchu sydd wedi'i glustnodi ar gyfer prosiect penodol yn y flwyddyn benodol honno na chafodd ei ddefnyddio yn y flwyddyn benodol honno. Wrth gwrs, cafodd telerau ac amodau'r grant eu llacio hefyd yn 2020-21 ac yn 2021-22 i awdurdodau er mwyn eu galluogi nhw i reoli'r ansicrwydd wrth gyflawni rhaglenni darparu gwasanaethau oherwydd cyfnodau o gyfyngiadau symud, a hefyd, oherwydd adleoli staff i waith cymorth COVID. Wrth gwrs, mae hynny'n golygu bod rhywfaint o gyllid, unwaith eto, wedi cael ei gadw wrth gefn i gyflawni prosiectau yn ddiweddarach. Gallai cronfeydd wrth gefn yr awdurdodau hefyd fod yn ganlyniad i nifer o benderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud dros gyfnod o flynyddoedd ynghylch darparu gwasanaethau, lefelau'r dreth gyngor a hefyd eu parodrwydd i dderbyn risg. Nid wyf yn credu ei bod hi'n deg dweud bod lefel y cronfeydd wrth gefn yn awgrymu bod y fformiwla mewn unrhyw ffordd yn annheg neu wedi torri.
Fe wnaf ymateb hefyd i'r pwynt am grantiau cymorth tai—rwy'n gwybod bod hynny wedi'i godi cryn dipyn yn ein dadl flaenorol ar y gyllideb. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod, yn y sefyllfa ariannol anodd yr ydym ynddi, mewn gwirionedd, ein bod ni wedi cynyddu'r grant cymorth tai 30 y cant, neu £40 miliwn, ym mlwyddyn gyntaf ein hadolygiad o wariant tair blynedd. Cafodd y cyllid hwnnw ei warchod gan y Gweinidog yn rownd y gyllideb eleni, felly doedd e ddim yn destun unrhyw un o'r ail-flaenoriaethu yr oedd rhywfaint o'n cyllid arall yn destun iddo, i geisio darparu cyllid pellach ar gyfer llywodraeth leol ac i'r GIG o ganlyniad i'r pwysau maen nhw'n ei wynebu ar hyn o bryd.
Er bod y setliad hwn yn adeiladu ar ddyraniadau gwell yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwy'n cydnabod nad yw'n dadwneud y blynyddoedd o gyni ac effaith hynny ar gyllid cyhoeddus, ac nid yw'n cyfateb i effaith chwyddiant ar gostau awdurdodau lleol a welsom dros y misoedd diwethaf, a gyda'r effeithiau hynny hefyd yn dal i ddod. Mae awdurdodau lleol wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn wrth bennu eu cyllidebau a lefelau eu treth gyngor dros yr wythnosau diwethaf, a byddant wedi ystyried anghenion gwahanol eu cymunedau ac wedi gweithio i gydbwyso darparu gwasanaethau effeithlon gyda, hefyd, effaith y cynnydd mewn treth gyngor ar aelwydydd. Dyma fyddai'r pwynt pan fyddwn yn gofyn i gyd-Aelodau atgoffa eu cymunedau lleol o'n cynllun i leihau'r dreth gyngor, oherwydd gwyddom fod aelwydydd sy'n gymwys ar gyfer hynny ond nad ydynt eto yn gwneud y gorau o'r gefnogaeth honno sydd ar gael.
Wrth gwrs, mae awdurdodau yng Nghymru, drwy bennu lefelau eu treth gyngor, yn gyfrifol i'w hetholwyr lleol am eu penderfyniadau. Yn wahanol i Loegr, rydym yn parhau i barchu eu hannibyniaeth; nid ydym yn gosod terfynau cyffredinol nac yn gofyn am refferenda lleol costus. Mae'r hyblygrwydd i bennu eu cyllidebau a phenderfynu ar lefelau'r dreth gyngor i ymateb i flaenoriaethau lleol yn nodwedd wirioneddol bwysig o ddemocratiaeth leol.
Fel sy'n arferol yn y dadleuon hyn, ac, yn wir, yn y trafodaethau sydd gennyf i gydag arweinwyr awdurdodau lleol, mae'r fformiwla dosbarthu llywodraeth leol yn cael ei chodi. Mae'r cyllid craidd yr ydym yn ei ddarparu i lywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu trwy fformiwla sydd wedi hen ennill ei phlwyf; mae wedi ei chreu a'i datblygu ar y cyd â llywodraeth leol ac wedi ei chytuno'n flynyddol gyda llywodraeth leol drwy is-grŵp cyllid Cyngor Partneriaeth Cymru. Y fformiwla honno—[Torri ar draws.] Mike, mae'n ddrwg gen i, wnes i ddim eich gweld chi.