Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 7 Mawrth 2023.
Diolch, Llywydd. Mae cael cynrychiolaeth iddyn nhw ar gyngor cynghori o ganlyniad yn creu dwy broblem sylweddol. Yn gyntaf, mae naill ai'n cynhyrchu siambr atsain i'r Prif Weinidog a Gweinidogion y Llywodraeth, i glywed y pethau maen nhw eisiau eu clywed, neu, yn ail, mae'n dod yn gyngor cynghori lle, os nad yw'r Llywodraeth yn cymryd cyngor undebau llafur, gellir bygwth cael gwared ar gyllid gwleidyddol y Llywodraeth, ac mae undebau llafur yn fwy na pharod i ddefnyddio'r dull hwn.