Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 7 Mawrth 2023.
Diolch, Llywydd, ac mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oes gen i syniad o hyd pam mae cymaint o wrthwynebiad i gadeirydd annibynnol ar gyfer y cyngor cynghori hwn. Rydw i wir yn credu bod y Llywodraeth yn colli cyfle, oherwydd byddai cadeirydd annibynnol nid yn unig yn gallu craffu a brwydro am welliannau, ond mewn gwirionedd byddai'n gallu treulio amser yn ymchwilio i rai o'r materion pwysicaf sy'n berthnasol i ni. Byddai'r gwelliannau hyn yn gwella'r cyngor partneriaeth gymdeithasol ac rwy'n siomedig nad ydynt wedi cael eu cefnogi. Diolch.