Grŵp 2: CPG: cyfarfodydd a chadeirio (Gwelliannau 13, 16, 17, 18, 21, 23, 24, 25, 26, 28, 29, 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 7 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joel James Joel James Conservative 5:39, 7 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Nod y cyngor partneriaeth gymdeithasol yw rhoi cyngor a gwybodaeth i Weinidogion y Llywodraeth. Os edrychwch chi ar y cynghorau partneriaeth gymdeithasol tridarn yn Ewrop—ac ni allaf gyfrif am bob un ohonyn nhw, ond—mae gan gyfrannau mawr ohonyn nhw gadeiryddion annibynnol sydd, yn eu tro, â gwybodaeth berthnasol ac arbenigol.

Mewn ymateb i'r gwelliannau arfaethedig hyn yng Nghyfnod 2, dywedodd fy nghydweithiwr yn yr wrthblaid, Ken Skates, fod y cyngor partneriaeth gymdeithasol yn gorff Llywodraeth Cymru ac nad yw'n ymwybodol o unrhyw

'gyrff Gweithredol eraill sydd â chadeiryddion wedi'u penodi gan y Senedd, felly mae'n gwbl briodol mai'r Prif Weinidog, neu o ran hynny, unrhyw Weinidog neu Ddirprwy Weinidog arall o fewn y Llywodraeth ddylai gadeirio'r cyngor.'

Er hynny, a gaf i atgoffa'r Aelodau yma mai'r Farwnes Tanni Grey-Thompson yw cadeirydd annibynnol Chwaraeon Cymru, sy'n gorff gweithredol a noddir gan Lywodraeth Cymru, a Phil George yw cadeirydd annibynnol Cyngor Celfyddydau Cymru? Felly, mae cynsail i gael cadeirydd annibynnol ar gorff gweithredol Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru allu dangos fod yna dryloywder a didueddrwydd o ran y cyngor partneriaeth gymdeithasol ac fe ddylen nhw benodi cadeirydd annibynnol, a dyma pam mae'r gwelliannau yma wedi'u cyflwyno. Diolch, Llywydd.