Y Diwydiant Teledu a Ffilm

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 8 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 1:30, 8 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ddiweddar, ymwelais â chwmni diwydiannol lleol, cwmni diwydiannol teuluol, yng Nghasnewydd, sef GD Environmental. Maent yn arallgyfeirio ar hyn o bryd, ac fe wnaethom ymweld â'u stiwdio ffilm, yn Nhrefonnen yng Nghasnewydd, lle mae Urban Myth yn ffilmio'r gyfres Sex Education. Mae'r cyfan yn mynd yn dda iawn, ac mae'r berthynas gyda Cymru Greadigol wedi bod yn ddefnyddiol iawn, Weinidog, ac rwy'n siŵr y byddwch yn falch o wybod hynny. Ond mae ganddynt gynlluniau nawr i adeiladu stiwdio ffilm arall, ochr yn ochr â'r un sydd eisoes yn bodoli, a hefyd mae ganddynt ddiddordeb mewn adeiladu hyb ffilm a theledu, a fyddai'n ysgol ffilm mewn gwirionedd, ar y cyd ag addysg uwch ac addysg bellach. Felly, maent yn uchelgeisiol, Weinidog, ac rwy'n credu bod hynny'n deillio o'r cryfder cynyddol sydd gennym yng Nghymru ym maes teledu, ffilm a'r cyfryngau. Tybed a allech edrych i weld pa gefnogaeth bellach y gallech ei chynnig i'r cwmni i ehangu yn y ffordd y maent yn cynllunio, ac ymweld â hwy eich hun rywbryd, efallai.