Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 8 Mawrth 2023.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rydych chi wedi dweud, ac mae Gweinidogion eraill wedi dweud, ar sawl achlysur fod y Llywodraeth wedi prynu'r safle er mwyn sicrhau dyfodol Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Fodd bynnag, mae wedi dod i'r amlwg nad gyda'r Green Man Trust Ltd y mae'r cytundeb y mae eich Llywodraeth wedi ymrwymo iddo, ond cwmni ar wahân o'r enw Cwningar Ltd, yn enw un unigolyn. Mae'r cwmni hwnnw wedi'i gofrestru a gyfer prynu neu werthu eiddo tirol, ac mae hefyd wedi'i gofrestru ar gyfer gweithredu eiddo tirol ar brydles. Felly, a wnewch chi egluro sut mae dod i gytundeb â chwmni ag enw sy'n golygu 'twll cwningen' yn diogelu dyfodol Gŵyl y Dyn Gwyrdd? I mi a sawl un arall, Weinidog, mae'n edrych fel pe bai Llywodraeth Cymru wedi dianc i lawr twll cwningen gyda'r pryniant hwn.