Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 8 Mawrth 2023.
Iawn, diolch yn fawr am hynny, Weinidog. Ond y Llywodraeth hon hefyd a anfonodd £155 miliwn yn ôl at Lywodraeth y DU am nad oeddent wedi gwneud eu gwaith cartref ar y cyllid. Felly, gadewch inni beidio â dilyn y trywydd hwnnw. Rwyf am barhau gyda fy nhrydydd cwestiwn.
Mae Ofcom yn credu na all tua 15,000 o adeiladau gael gwasanaeth band eang gydag o leiaf 10 Mbps o gyflymder lawrlwytho a chyflymder uwchlwytho o 1 Mbps. Mae Openreach yn credu y bydd cyfarparu'r 15,000 o safleoedd hynny'n briodol yn her, ac mae'n dweud y bydd angen i'r diwydiant a Llywodraethau ddod at ei gilydd i ddod o hyd i ateb. Felly, Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo Llywodraeth y DU i sicrhau bod y 15,000 eiddo yn cael cyflymder band eang derbyniol a digonol? Diolch.