Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 8 Mawrth 2023.
Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gefnogi busnesau Cymru. Wrth inni ddod allan o gysgod hir y pandemig, un o'n blaenoriaethau yw parhau i gefnogi adferiad economaidd Cymru. Byddwn yn mabwysiadu dull tîm Cymru o greu Cymru decach, gwyrddach a mwy ffyniannus ym mhob cwr o'r wlad, gan gynnwys, wrth gwrs, yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.