Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 8 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 1:39, 8 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch o galon, Lywydd. Weinidog, amcangyfrifir nad yw tua 7 y cant o oedolion yng Nghymru ar y rhyngrwyd. Mae talp mawr o'r 7 y cant hwnnw'n bobl 75 oed neu hŷn sydd heb gysylltiad â'r rhyngrwyd. Ychydig o dan 80 y cant o bobl sydd â salwch, anabledd neu wendid cyfyngus, hirsefydlog sy'n defnyddio'r rhyngrwyd, o'i gymharu â 93 y cant o bobl heb gyflyrau o'r fath. Felly, rwy'n chwilfrydig i wybod, Weinidog, sut y bydd strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru yn helpu i leihau allgáu digidol.