Cyfyngiadau Cyflymder Diofyn o 20 mya

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 8 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:01, 8 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cael cyfarfodydd a sgyrsiau rheolaidd gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae 'Llwybr Newydd', ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth, yn cyflwyno gweledigaeth ar gyfer system drafnidiaeth sy'n dda i gymdeithas, yr amgylchedd a'r economi. Fe fydd yn gymorth pellach i gefnogi llesiant economaidd drwy drefi, dinasoedd a phentrefi ffyniannus.