Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 8 Mawrth 2023.
Wel, mae gennyf ddiddordeb, ac rwy'n meddwl am fy ngorffennol fy hun, mewn perthynas â gwlân. Roedd fy mam yn arfer gwau ein siwmperi ysgol ac roedd fy nhad yn filfeddyg gwledig, felly treuliais amser go faith yn gweld fy nhad yn trin defaid; roedd yn hwyl gweld fy nhad yn mynd drwy broses ddipio defaid ar y pryd hefyd. Felly, rwy'n deall ychydig am hyn a beth mae'n ei olygu i'r ffermwyr eu hunain hefyd. Pe bai'r Aelod yn ysgrifennu ataf gyda mwy o fanylion, byddwn yn falch iawn o ystyried beth fyddai'r camau rhyngweithio priodol. Hoffwn weld dyfodol ffyniannus a chadarnhaol i'r diwydiant gwlân, ac yn wir, yr amrywiaeth o ddefnyddiau posibl ar gyfer gwlân a gynhyrchir yma yng Nghymru. Felly, unwaith eto, edrychaf ymlaen at dderbyn gohebiaeth yr Aelod.