Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 8 Mawrth 2023.
A gaf fi ddiolch i Rhianon Passmore am y cwestiwn atodol ac am godi'r mater pwysig hwn yn y Siambr? Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi pobl yr effeithir arnynt gan niwed sy'n gysylltiedig â gamblo, ac yn parhau i arddel ymagwedd integredig a chydweithredol tuag at bolisi gamblo. Rydym wedi ymrwymo i ddull iechyd cyhoeddus o fynd i'r afael â'r niwed a achosir gan gamblo i amddiffyn pobl, yn enwedig plant a phobl ifanc, a phobl fregus. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda swyddogion addysg ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddeall sut i gyfleu niwed cynnyrch gamblo yn fwyaf effeithiol i bobl ifanc drwy ddull dadnormaleiddio.
Yn dilyn trafodaethau gyda rhanddeiliaid, fe wnaethom gomisiynu Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnal asesiad o anghenion gamblo i lywio ein gwaith. Fe wnaeth yr asesiad hwnnw, a gyhoeddwyd ar 1 Chwefror, adolygu anghenion pobl sy'n dioddef niwed gamblo er mwyn llywio dull iechyd cyhoeddus o leihau niwed gamblo yng Nghymru. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ei gwneud mor hawdd â phosibl i gyfeirio'r rhai sydd angen cymorth ar y cyfle cyntaf, ac un o'n hargymhellion o'n grŵp gorchwyl a gorffen ar gamblo oedd edrych ar y llwybr atgyfeirio a'r potensial ar gyfer gwasanaeth triniaeth gamblo arbenigol yng Nghymru. Mae'n hanfodol fod llwybrau'n glir ac yn cael eu deall gan weithwyr proffesiynol a chan unigolion sy'n hunanadnabod fel rhai sydd angen cymorth. Byddwn yn edrych ar hynny eleni, yn ogystal â gweithio gyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i ddeall pa ran y gallai gwasanaeth triniaeth arbenigol ei chwarae yma yng Nghymru.
Ac wrth ddod at eich pwynt olaf, Rhianon, fel y gwyddoch, mae rhai o'r ysgogiadau mwyaf dylanwadol i leihau niwed gamblo yn nwylo Llywodraeth y DU. Rydym wedi bod yn aros ers cryn dipyn o amser am Bapur Gwyn arfaethedig a fyddai'n mynd i'r afael â rhai o'r materion allweddol, fel cyfyngiadau ar hysbysebu ac ardoll ar y diwydiant. Rydym wedi cael addewid ei fod ar y ffordd ar sawl achlysur, ac rydym yn siomedig iawn nad oes cynnydd wedi'i wneud hyd yn hyn. Byddwn yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU ar y pwynt hwn.