Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 8 Mawrth 2023.
Diolch, Llywydd. Os oedd yr hyn wnaeth y Gweinidog efo bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yr wythnos diwethaf i fod i roi gobaith newydd i bobl, mae gen i ofn nad dyna ddigwyddodd. Beth sydd gennym ni ydy poblogaeth a gweithlu efo'u pennau yn eu dwylo. Rydyn ni wedi bod yma o'r blaen. Yn 2015, mi ddywedodd Mark Drakeford ei fod o'n rhoi'r bwrdd mewn mesurau arbennig oherwydd pryderon am arweinyddiaeth. Yr wythnos diwethaf, roedd y Gweinidog yn dweud bod yna bryderon difrifol am arweinyddiaeth a diwylliant y sefydliad. Buaswn i'n licio bod yn garedig a dweud bod Betsi Cadwaladr wedi bod yn troedio dŵr am yr wyth mlynedd diwethaf, ond, gyda phroblemau iechyd meddwl, fasgwlar, adran frys Glan Clwyd, dydy'r bwrdd ddim wedi bod yn cadw ei ben uwchben y dŵr.