Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 8 Mawrth 2023.
Mae ystadegau am y gweithlu meddygon teulu yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru. Mae'r cipolwg diweddaraf, ar 30 Mehefin, yn dangos bod 2,301 o feddygon teulu sydd wedi cymhwyso'n llawn. Mae hwn yn cyfateb i gyfanswm amser llawn o 1,562. Mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon cyflogedig, meddygon wrth gefn a meddygon locwm gweithredol.