Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 8 Mawrth 2023.
Mae gennym darged diagnostig na ddylai unrhyw un aros dros wyth wythnos. Mae'r bwrdd iechyd yn ei chael yn arbennig o anodd sicrhau hyn yn Abertawe, lle mae 70 y cant o'r rhai sy'n aros dros wyth wythnos yn aros am endosgopi diagnostig. Mae'r bwrdd iechyd yn cael cymorth gan yr uned gyflawni ac yn gweithio gyda Hywel Dda ar hyb diagnostig rhanbarthol.