Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 8 Mawrth 2023.
Cafodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei gomisiynu i lunio asesiad o anghenion iechyd gamblo yng Nghymru, a gafodd ei gyhoeddi y mis diwethaf. Tynnodd yr adroddiad sylw at raddau'r heriau iechyd posibl a achosir gan gaethiwed i gamblo ledled Cymru, gan gynnwys Islwyn. Mae'r rhain yn cynnwys straen, gorbryder, camddefnyddio sylweddau, ac yn yr achosion mwyaf trasig, hunanladdiad.