Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 8 Mawrth 2023.
Mae mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yng ngogledd Cymru wedi gwella'n sylweddol ers cyflwyno mesurau gweithgarwch amgen ym mis Ebrill 2022. Mae 96% o ddeintyddfeydd sy'n cynnig gwasanaethau'r GIG wedi dewis y mesurau diwygiedig hyn, sy'n cynnwys cymelliadau i dderbyn cleifion deintyddol GIG newydd, ac mae hyn wedi caniatáu i 26,000 o gleifion newydd gael mynediad at wasanaethau deintyddol yn y 10 mis cyntaf.