Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 8 Mawrth 2023.
Diolch, Andrew R.T. Davies. Yn amlwg, yn fy ymateb, dywedais y bydd holl amgylchiadau'r drasiedi ofnadwy hon yn cael eu hystyried gan Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu. Rydym yn gwybod bod Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r ddamwain angheuol hon ar yr A48 yn ardal Llaneirwg, Caerdydd. Yn amlwg felly, bydd yr holl amgylchiadau'n cael eu hystyried yn yr ymchwiliad hwnnw.