Y Ddamwain Angheuol yn Llaneirwg

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 8 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:04, 8 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Peredur Owen Griffiths, a diolch yn fawr, Lywydd, am eich sylwadau chi hefyd.

Mae hon yn drasiedi enfawr, ac mae fy meddyliau gyda theuluoedd a ffrindiau'r bobl ifanc a oedd yn y ddamwain ar yr A48. Bydd hwn yn gyfnod eithriadol o anodd i bawb yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad ofnadwy hwn. Rwy'n deall bod Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru wedi cyfeirio'r achos at sylw Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.