Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 8 Mawrth 2023.
Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn maddau i mi am ddweud bod y Senedd, rwy'n credu, ar ei gorau pan fo Aelodau'n cyflwyno materion nad oes ganddynt y proffil y maent yn ei haeddu bob amser i'r Siambr ac yn dilyn y cwestiynau hynny gyda mesur cyfartal o arbenigedd ac angerdd, yn y ffordd y mae Sarah Murphy wedi mynd ar drywydd mater data biometrig a phobl ifanc yn gyson.