Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 8 Mawrth 2023.
Ddirprwy Lywydd, fel y nodwyd yn y cynnig, rhaid i ysgolion a cholegau ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac mae hwnnw hefyd wedi'i nodi'n glir yn ein canllawiau. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i fynegi eu barn, eu teimladau a'u dymuniadau ym mhob mater sy'n effeithio arnynt; i'w barn gael ei hystyried a'i chymryd o ddifrif; a'r hawl i breifatrwydd. Felly, mae'n hanfodol fod dysgwyr yn deall nad yw cymryd rhan mewn system fiometrig yn orfodol. Ochr yn ochr â'r prif ganllawiau, fe wnaethom gynhyrchu fersiwn yn benodol ar gyfer plant, fel y nododd Sarah Murphy yn ei haraith, er mwyn helpu pobl ifanc i ddeall eu hawliau mewn perthynas â'r maes hwn. Cafodd y ddogfen ei datblygu gyda chymorth dysgwyr ifanc, gan gynnwys y grŵp cynghori ar hawliau plant a Cymru Ifanc, a hoffwn ddiolch iddynt hwy hefyd am eu cyfraniad gwerthfawr.
Mae gofyn i ysgolion a cholegau gael cydsyniad ysgrifenedig gan riant neu ofalwr cyn y gellir casglu unrhyw ddata biometrig. Mae ganddynt hwy, neu'r dysgwr yn wir, hawl i optio allan ar unrhyw adeg. Rhaid i ysgolion a cholegau fod yn dryloyw yma, gan ei gwneud yn glir fod cymryd rhan yn ddewisol, a darparu gwybodaeth glir am y defnydd arfaethedig a gweithdrefnau diogelu data. Pan fo naill ai rhiant, gofalwr neu ddysgwr yn dewis optio allan, rhaid i ysgolion a cholegau ddod o hyd i ffordd arall resymol o ddarparu'r gwasanaeth. Mae hwn yn bwynt arbennig o bwysig. Ni ddylai dysgwyr fod o dan anfantais ac ni ddylent gael mynediad at lai o wasanaethau neu wasanaethau gwahanol oherwydd penderfyniad ysgol i gyflwyno biometreg.
Mae ysgolion yn gyfrifol yn gyfreithiol am unrhyw ddata y maent yn ei gasglu a'i ddefnyddio. Rhaid iddynt sicrhau bod unrhyw ddata biometrig yn cael ei storio'n ddiogel, nad yw'n cael ei gadw'n hwy na'r angen, nad yw ond yn cael ei ddefnyddio at y diben y caiff ei gasglu ar ei gyfer ac nad yw'n cael ei ddatgelu'n anghyfreithlon i drydydd parti. Dylid ystyried hyn fel rhan o asesiad effaith diogelu data, y dylid ei gynnal ar y dechrau. Rhaid i ysgolion a cholegau sicrhau nad ydynt ond yn dyfarnu contractau i gyflenwyr biometrig sy'n darparu gwarant ddigonol i weithredu mesurau priodol yn unol â'r rheoliad cyffredinol ar ddiogelu data. Mae erthygl 28 yn pennu'r gofynion cytundebol gofynnol, sydd, yn ei hanfod, yn sicrhau nad yw cyflenwyr ond yn gallu gweithredu ar sail cyfarwyddiadau'r ysgol neu'r coleg, ac ni chânt ddefnyddio'r data at unrhyw ddibenion eraill. Pe bai ysgol neu goleg yn caffael system heb gontract sy'n cydymffurfio'n llawn, byddent yn debygol o ysgwyddo atebolrwydd cyfreithiol llawn am weithredoedd y darparwr system.
Pan fydd systemau biometrig yn cael eu gweithredu, dylai'r ysgol neu'r coleg fonitro ac adolygu eu heffeithiolrwydd yn ôl eu pwrpas gwreiddiol. Bydd hyn yn sicrhau bod y dechnoleg yn parhau i gael ei defnyddio am y rheswm a fwriadwyd, a'i bod yn cyflawni'r dyletswyddau cyfreithiol, y gofynion a'r cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth diogelu data. Gallai unrhyw fethiant i fodloni'r gofynion diogelu data arwain at atgyfeiriad at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, fel y soniodd Sarah Murphy yn ei haraith. Gall Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ddarparu cyngor a chyfarwyddyd i helpu i sicrhau bod ysgolion yn cael hyn yn iawn, ac yn amlwg, gall tramgwydd ddifrifol arwain at gamau gorfodi.
Rwy'n fodlon fod gan ysgolion a cholegau gefnogaeth a chyngor ar gael iddynt i sicrhau eu bod yn gallu gweithredu'r safonau data gofynnol yn briodol wrth fabwysiadu'r defnydd o systemau biometrig. Ar hyn o bryd, nid oes bwriad penodol i gyflwyno deddfwriaeth gyffredinol ar gyfer defnyddio data biometrig mewn ysgolion oherwydd bodolaeth fframwaith cyfreithiol ehangach gyda phrosesau gwirio ac archwilio perthnasol. Mae'r penderfyniad i gyflwyno system fiometrig yn un i ysgolion unigol ei wneud ar sail anghenion gweithredol, asesiadau effaith, ac mewn ymgynghoriad â staff, dysgwyr, rhieni a gofalwyr. Mae hyn yn gyson ag egwyddor ymreolaeth ysgolion, ond o fewn fframwaith rheoleiddio clir.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r cynnig er mwyn ymatal arno, yn ôl y confensiwn, ond mae'r Aelod wedi dwyn pwyntiau pwysig i fy sylw yma yn y Siambr heddiw. Gan ei bod wedi gwneud hyn o'r blaen, mae wedi caniatáu inni edrych gyda'n gilydd ar beth arall y gallwn ei wneud. Fel y cydnabu, ac rwy'n ddiolchgar am hyn, mae'r Llywodraeth wedi gweithredu. Rwy'n rhoi sicrwydd iddi y byddaf yn ymdrin â'r cais y mae wedi'i wneud heddiw yn yr un ffordd adeiladol a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddi hi a'r Senedd yn unol â hynny. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i atgoffa ysgolion o'u rhwymedigaethau cyfreithiol ac yn cadw ein canllawiau dan adolygiad parhaus i adlewyrchu datblygiadau yn y maes hwn sy'n newid yn gyflym.