7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yr adolygiad ffyrdd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 8 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 4:50, 8 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch o galon, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn heddiw fel y gall yr holl Aelodau yma drafod adolygiad ffyrdd y Llywodraeth Lafur a'i pholisïau trafnidiaeth yn iawn. Roedd y ffordd y gwnaed y cyhoeddiad diweddar ar yr adolygiad ffyrdd yn draed moch. Datganiad y Dirprwy Weinidog yn y Siambr hon ychydig cyn y toriad oedd un o'r datganiadau gwaethaf i mi eu clywed hyd yma—datganiad am gasgliad yr adolygiad ffyrdd nad oedd yn amlinellu pa ffyrdd sydd wedi cael sêl bendith a pha rai sydd wedi'u diddymu. Yn hytrach, dewisodd y Dirprwy Weinidog ddatgelu pa brosiectau a oedd wedi'u hachub tra bod llawer ohonom eisoes yn y Siambr, yn mynd ati fel lladd nadroedd i fynd drwy'r ddogfen roeddem newydd ei chael. Mae'n debyg na fyddwn ni byth yn gwybod a oedd hynny'n ymgais fwriadol i osgoi craffu priodol neu'n gamgymeriad diffuant ar ran y Dirprwy Weinidog. Ond o leiaf nawr rydym wedi cael amser i dreulio canlyniad yr adolygiad, ac wedi cael digon o amser heddiw i graffu arno fel y mae'n ei haeddu.

Yn fy marn i, nid yw'r adolygiad ffyrdd yn diwallu anghenion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru fodern a deinamig. Efallai fod y Dirprwy Weinidog yn credu bod ei waith yn torri tir newydd, yn ddewr, ac yn arwain y byd, ond yn sicr nid yw'r rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan hyn yn rhannu'r farn hon. Mae rhai wedi galw cyhoeddiad y Dirprwy Weinidog yn 'gyflafan ffyrdd Dydd San Ffolant', gydag eraill yn cynnal protestiadau ar raddfa fawr. Cymerwch gymuned Llanbedr, er enghraifft. Roedd pentrefwyr yn credu bod eu diflastod yn dod i ben pan roddwyd sêl bendith i gynlluniau ar gyfer ffordd osgoi Llanbedr yn 2020. Yna, yn fuan ar ôl rhoi stop ar brosiectau adeiladu ffyrdd yng Nghymru, fe wnaethom ddarganfod bod ffordd osgoi Llanbedr yn mynd i gael ei rhoi heibio, er bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwario oddeutu £14 miliwn ar y cynllun. Nid yw trigolion Llanbedr yn gallu symud o gwmpas eu pentref yn ddiogel oherwydd problemau traffig, gyda'r ardal yn aml yn dod i stop yn llwyr. Byddai ffordd osgoi wedi rhoi diwedd ar eu hunllef, ac wedi adfer ansawdd bywyd y pentrefwyr. Maent mor ddig, mae'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan ymateb difeddwl y Llywodraeth Lafur yn cynllunio protest fawr yn yr ardal yn ddiweddarach y mis hwn, ac a bod yn onest nid wyf yn eu beio.

Mae'n amlwg o edrych ar ganlyniad yr adolygiad ffyrdd fod gogledd Cymru yn cael cam go iawn, fel sy'n digwydd yn aml gyda'r Llywodraeth Lafur hon. Rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelodau'n edrych ar hyn yn fanylach mewn perthynas â ffyrdd penodol yn eu rhannau hwy o'r wlad sydd wedi cael eu hatal, ond gadewch imi gyffwrdd ar ambell un. Mae'r drydedd bont dros y Fenai a llwybr coch sir y Fflint, dau gynllun mawr eu hangen, wedi'u rhoi heibio. Yn ddiweddar, gwelsom pa mor fregus yw Ynys Môn pan fu'n rhaid cau pont Menai oherwydd pryderon ynghylch diogelwch. Arweiniodd hynny at anhrefn traffig mawr yn yr ardal, gan gynnwys tagfeydd trwm, heb sôn am y niwed economaidd a achoswyd i'r ardal o ganlyniad. Byddai trydedd croesfan Menai wedi helpu i wella amseroedd teithio, diogelwch ar y ffyrdd a chadernid. Rwy'n siŵr y bydd nifer o Aelodau gogledd Cymru yma, ynghyd â'u hetholwyr, yn siomedig iawn ynghylch y penderfyniad wrth i bawb ohonom aros yn eiddgar i weld pa ddewisiadau eraill a gaiff eu llunio. Mae trydedd croesfan Menai yn ymuno â llu o brosiectau eraill sy'n cael eu rhoi heibio, gan gynnwys llwybr coch sir y Fflint, gyda rhai'n dadlau y byddai'n lleihau tagfeydd ac yn gwella ansawdd aer yn sylweddol. Mae'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd, sefydliad y mae gennyf y parch mwyaf ato ac y gweithiais yn agos gydag ef ers amser hir, wedi rhoi eu dyfarniad i mi ar yr adolygiad ffyrdd, ac mae braidd yn ddamniol a dweud y lleiaf. Meddai Geraint Davies, aelod o fwrdd y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd:

'Dyma ergyd enfawr i fusnesau'r gadwyn gyflenwi sydd angen rhwydwaith ffyrdd modern, gweithredol i gadw pobl a nwyddau i symud yn effeithlon.'

Aeth Mr Davies rhagddo i ddweud

'Ffyrdd yw'r unig opsiwn i lawer o fusnesau a chymunedau yng Nghymru. Mae tagfeydd ar lwybrau allweddol yn gwneud trafnidiaeth yn ddrutach nag y mae angen iddo fod. Rhaid i Weinidogion gydnabod y gwirioneddau hyn ac ymrwymo i welliannau i ffyrdd fel Ffordd Liniaru'r M4 y mae ei hangen arnom yn ddirfawr.'

Ychwanegodd y gymdeithas, 'Mae cludo nwyddau ar y ffordd nid yn unig yn darparu gwasanaethau hollbwysig i gymunedau anghysbell ac i bobl fregus, mae hefyd yn sbardun i economi'r DU. Drwy beidio â buddsoddi mewn ffyrdd a seilwaith, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud Cymru'n lle anos ar gyfer gwneud busnes.'

Mae fy mewnflwch yn llawn o e-byst gan etholwyr, a phobl ymhellach i ffwrdd hyd yn oed, yn mynegi eu rhwystredigaeth ynghylch penderfyniad Llafur i atal prosiectau adeiladu ffyrdd. Mae un etholwr, sy'n teithio o'r Coed Duon i Gasnewydd bob dydd ar gyfer gwaith, taith a arferai gymryd ychydig dros 30 munud yn unig—. Mae bellach yn cymryd dros awr i fy etholwr gyrraedd y gwaith, oherwydd mae'r Llywodraeth Lafur yn dod â Chymru i stop drwy fethu mynd i'r afael â thagfeydd. Er ei fod yn croesawu cynlluniau i gyflawni sero net, mae fy etholwr yn dweud ei fod yn credu y bydd y dull presennol o gael gwared ar adeiladu ffyrdd yn amddifadu Cymru o fuddsoddiad yn y dyfodol ac yn mynd â phawb ohonom yn ôl i'r oesoedd tywyll. Mae'n dweud, 'Byddwn bob amser angen ffyrdd ac angen economi iach i ddiwallu anghenion poblogaeth sy'n tyfu. Nid wyf yn credu bod gan unrhyw un yng Nghynulliad Cymru unrhyw syniad sut beth yw teithio i'r gwaith ar yr adegau prysuraf bob dydd. Maent yn gwneud penderfyniadau wrth beidio â byw ym myd go iawn bodau dynol cyffredin.' Hyn gan etholwr, cofiwch.

Mae etholwr arall i mi wedi cael ei orfodi i ganslo ei aelodaeth o ganolfan ddringo dan do boblogaidd yng Nghaerdydd oherwydd faint o amser mae'n cymryd iddo gyrraedd yno o'i gartref. Mae'r hyn a ddylai fod yn daith 35 munud bellach yn cymryd hyd at awr, ac ni all wynebu eistedd mewn traffig drwy'r amser. Ar ôl brwydro gyda thraffig ers cryn dipyn o amser i gyrraedd y ganolfan ddringo, mae bellach wedi penderfynu canslo ei aelodaeth yn llwyr gan nad yw'n gallu dioddef hyn mwyach. Oherwydd methiant y Llywodraeth hon i roi rhwydwaith trafnidiaeth ddigonol i ni, mae gennym fusnesau'n colli arian, ac yn yr achos hwn, mae ffitrwydd, mwynhad ac iechyd meddwl trigolion yn dioddef.