7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yr adolygiad ffyrdd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 8 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:05, 8 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n cael ychydig bach o drafferth gyda'ch awgrym na fydd unrhyw ffyrdd eraill yn cael eu hadeiladu byth. Mae'n ddigon posibl y bydd y prosiectau sydd wedi'u diddymu'n digwydd mewn ffordd arall. Mae'n ddigon posibl y byddant yn cael eu datblygu mewn cynnig amgen. Felly, mae ceisio cyfleu mai dyma ddiwedd ar adeiladu ffyrdd yng Nghymru braidd yn anonest. Ac fe gyfeirioch chi at ddatblygu economaidd; mae yna waith ar y gweill nawr i edrych ar greu eithriadau o feini prawf amrywiol ar gyfer safleoedd arwyddocaol o safbwynt datblygu economaidd. Felly, peidiwch â lledaenu'r nonsens ynglŷn â dim mwy o ffyrdd yn cael eu hadeiladu byth, oherwydd mae hynny'n gwbl gamarweiniol.