Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 8 Mawrth 2023.
Wel, rwy'n anghytuno'n sylfaenol â hynny, Mark. Os ydych chi'n cyfnewid yr holl geir presennol sydd ar y ffordd am gerbydau trydan neu gerbydau allyriadau isel, bydd gennych argyfwng hinsawdd gwahanol i edrych arno. Yr hyn sydd ei angen arnom yma yw ateb gwahanol i drafnidiaeth nad yw'n dibynnu ar drafnidiaeth ceir unigol.
Beth bynnag, gadewch i mi droi'n ôl at fy enghraifft o lwybr coch sir y Fflint. Byddai £300 miliwn o bunnoedd wedi'i wario—arian nad yw ar gael wedyn i'w wario ar ddewisiadau amgen—i adeiladu ffordd ddeuol drwy goetir hynafol yn ystod argyfwng natur; £300 miliwn ar brosiect a fyddai wedi cynyddu allyriadau carbon 423,000 tunnell yn ystod argyfwng hinsawdd, ac eto o fewn degawd a hanner i'w adeiladu byddai lefelau tagfeydd wedi codi'n ôl i'r lefelau a welwn heddiw. Nid wyf yn gallu deall sut y gall unrhyw un feddwl bod honno'n ffordd gall o fuddsoddi arian. Tra wyf wrthi, mae gwir angen i'r Torïaid sy'n paldaruo am y swm o arian nad yw'n cael ei fuddsoddi yng ngogledd Cymru wneud eu symiau; rwy'n credu bod angen ichi gael golwg ar yr hyn a gafodd ei gynnig ar gyfer yr M4 yn ne Cymru, os ydych chi am wneud y gymhariaeth mewn gwirionedd.
Yn hytrach, byddwn yn buddsoddi'n gynaliadwy yng ngogledd Cymru. Nid oedd y buddsoddiad a gynigiwyd yno yn gyson â'n hymrwymiadau o dan Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol, nac ychwaith yn cyd-fynd â'r hyn y dywedasom y byddem yn ei wneud yn strategaeth trafnidiaeth Cymru ac nid yw'n gyson â'n targedau statudol ar newid hinsawdd. Y rheswm pam y sefydlwyd y panel adolygu ffyrdd annibynnol oedd i brofi cynlluniau fel y llwybr coch, a gafodd eu rhoi ar y gweill cyn inni gytuno ar y polisïau hyn, yn erbyn ein hymrwymiadau ac yn erbyn egwyddorion cyfundrefnol Llywodraeth Cymru. Nid yw'n waharddiad ar adeiladu ffyrdd, yn gwbl amlwg, a byddwn yn gweithio gyda chomisiwn Burns i weithredu dewis arall o gynllun cynaliadwy, a dyna yw'r peth cywir i'w wneud yn amlwg.
Felly, i fod yn glir, Lywydd, ymarfer polisi technegol yw hwn, ac nid rhywbeth y byddai unrhyw Lywodraeth yn ymgynghori arno'n uniongyrchol. Y cam strategaeth, a'r cam cynllunio, yw'r amser i ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid, ac wrth gwrs, rydym wedi gwneud hynny a byddwn yn gwneud cymaint o hynny ag y gallwn. Yn wir, mae comisiwn Burns yng ngogledd Cymru bellach yn ymgynghori fel rhan o'i waith, a phan fydd awdurdodau lleol wedi cynhyrchu eu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol newydd byddant hwythau hefyd yn ymgynghori arnynt, a hynny'n gwbl briodol.
Mae cynnig y Ceidwadwyr yn dweud bod angen inni,
'gyflawni'r seilwaith trafnidiaeth y mae pobl Cymru yn ei haeddu.'
Rydym yn cytuno'n llwyr. Mae angen inni ddiogelu ein seilwaith ar gyfer y dyfodol i ymdrin â'r heriau y gwyddom eu bod ar y ffordd. Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein seilwaith ffyrdd. Byddwn yn gwneud mwy i gynnal a chadw'r ffyrdd sydd gennym a byddwn yn adeiladu ffyrdd newydd sy'n bodloni ein pedwar prawf polisi. Byddwn yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau a all fynd i'r afael â'n problemau trafnidiaeth heb ychwanegu at yr heriau eraill, ac rydym yn hyderus iawn fod hynny i gyd yn ymarferol iawn.
Gadewch inni edrych ar hyn yn gymesur. Er mwyn dechrau ar lwybr tuag at sero net erbyn 2050, mae angen i ni leihau'r defnydd o geir 10 y cant, felly y cyfan rydym yn ei wneud mewn gwirionedd—