Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 8 Mawrth 2023.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma, oni bai bod Aelodau eisiau i fi ganu'r gloch, ar eitem 5, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar ddata biometrig mewn ysgolion. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Sarah Murphy. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, 14 yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.