'Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru'

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 14 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:30, 14 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Roedd yr ymrwymiad i geisio pwerau datganoledig sy'n ymwneud â chydnabod rhywedd, ac i gefnogi ein cymunedau traws, wedi'i gynnwys yn ein rhaglen lywodraethu ac mae'n rhan o'r cytundeb cydweithio. Mae'r cynllun gweithredu LHDTC+ wedi cynnwys yr ymrwymiad hwn ers ei ddrafft cyntaf. Mae'r rhain yn bolisïau a wnaed yng Nghymru, nid yn yr Alban.