Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 14 Mawrth 2023.
Rwy'n falch eich bod wedi egluro beth yw barn y Llywodraeth ar yr hyn y mae'r RCN yn ei gynrychioli—dyna fy marn i—a hefyd rwy'n datgan buddiant gan fod gennyf aelodau o'r teulu sy'n aelodau o'r Coleg Nyrsio Brenhinol, corff proffesiynol ymroddedig o bobl sy'n gofalu amdanom ni pan fyddwn mewn angen mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol. Ond onid ydych chi'n credu y byddai'n briodol i Weinidog, Dirprwy Weinidog, ymddiheuro mewn gwirionedd am y sylwadau hynny sydd wedi peri loes i nyrsys o fewn y proffesiwn, nad ydynt eisiau bod ar streic, nad ydynt yn sefydliad milwriaethus ac nad ydynt eisiau brwydr? Maen nhw eisiau bwrw ymlaen â'r gwaith o edrych ar ôl y cleifion gyda gofal angerddol, dyna'r cwbl.