Y Adolygiad Ffyrdd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 14 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:33, 14 Mawrth 2023

Yn syml iawn, be dwi'n gofyn i'r Prif Weinidog i'w wneud heddiw ydy cynnal adolygiad go iawn o'r penderfyniad i beidio bwrw ymlaen efo'r cynllun ar gyfer croesiad y Fenai. Dwi'n nodi bod comisiwn Burns wedi cael cais i edrych ar y gwahanol opsiynau. Dwi wedi cyflwyno dadl i'r comisiwn hwnnw dros atgyfodi'r cynllun. Wrth gwrs, yr adolygiad ffyrdd yn canolbwyntio ar yr amgylchedd yn bennaf oedd sail y cyhoeddiad, ond mae gen i gopi yn fan hyn o'r ymgynghoriad ar yr opsiynau ar gyfer pa fath a pha lwybr o bont i'w chodi, ac mae o'n dangos mai Llywodraeth Cymru ei hun wnaeth ddewis y cynllun a fyddai'n fwyaf niweidiol o ran effaith ar fioamrywiaeth a'r amgylchedd, ac a fyddai'n creu y mwyaf o gynnydd mewn traffig. Ac mae o'n dangos hefyd y byddai cynlluniau llai yn fwy cost-effeithiol, o bosib. Rhaid dweud mai rhywbeth symlach rôn i wedi ei ragweld—deuoli'r Britannia, i bob pwrpas, efo llwybrau teithio llesol.

Felly, dwi am i'r Prif Weinidog edrych eto ar yr anghenion craidd gwreiddiol am y croesiad a sut i'w delifro nhw, yr angen i wella diogelwch, gwella cyfleon teithio llesol, a'r hwb economaidd sy'n dod o gael croesiad mwy gwydn—ar gyfer delifro ar y porthladd rhydd, er enghraifft. Mae'r adolygiad ffyrdd ei hun yn dangos y byddai pont newydd yn delifro pob un o'r rhain. A rhan o'r gwaith, Llywydd, sydd eisiau ei wneud ar frys rŵan, ydy edrych eto ar sut y gellid delifro hynny yn y ffordd sy'n cael yr effaith leiaf negyddol ar yr amgylchedd. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno i wneud hynny?