Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 14 Mawrth 2023.
Prif Weinidog, byddwch chi, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r ffaith, ar gyfer unrhyw brosiectau na chawsant y golau gwyrdd gan yr adolygiad ffyrdd, y cyngor i awdurdodau lleol fu ewch yn ôl i'r bwrdd darlunio ac ystyried, yn unol â WelTAG 1, fesurau amgen i liniaru, er enghraifft, problemau diogelwch ar y ffyrdd lleol. Pa gymorth penodol gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i awdurdodau lleol ynghylch hyn? Ac, yn bwysicaf oll, a oes yna unrhyw gynlluniau i ddiwygio'r meini prawf ar gyfer grant diogelwch ar y ffyrdd Llywodraeth Cymru, y mae'n rhaid darparu tystiolaeth ar ei gyfer i ddangos digwyddiadau traffig ffyrdd difrifol neu angheuol cyn y gall awdurdod lleol gael cymorth ariannol?