Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 14 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:50, 14 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, unwaith eto, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod ailddosbarthu HS2 fel prosiect i Loegr yn unig, gan ddwyn £5 biliwn mewn cyllid canlyniadol Barnett oddi wrth Gymru a allai fod yn drawsnewidiol i'n seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Mae hynny er bod dadansoddiad Llywodraeth y DU eu hunain yn dangos ei fod yn fwy tebygol o niweidio Cymru na darparu unrhyw fudd. A fyddwch chi'n galw ar unrhyw weinyddiaeth Lafur yn y dyfodol i unioni'r cam hwnnw?