Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 14 Mawrth 2023.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog, am hynna. Mae hawl i ofalwyr di-dâl gael asesiad i ganfod pa gymorth sydd ei angen arnynt, os o gwbl, yn un o brif egwyddorion siarter gofalwyr di-dâl. Mae gwaith ymchwil gan y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor yn dangos bellach fod un o bob pedwar gofalwr clefyd niwronau motor ledled Cymru naill ai wedi cael asesiad gofalwyr neu yn y broses o gael un. Mae'r asesiadau hyn yn gwbl hanfodol ar gyfer asesu amrywiaeth o gymorth, a does dim rhaid dweud bod ein gofalwyr clefyd niwronau motor di-dâl, ac yn wir bob gofalwr, yn gwneud gwaith anhygoel. Tybed, Prif Weinidog, pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod pob gofalwr di-dâl yn cael mynediad i'r asesiadau hynny?