Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 14 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:51, 14 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Dim ond ar y pwynt penodol, Prif Weinidog—oherwydd bod hyn yn eithaf pwysig, on'd yw e—ai hynny fydd eich safbwynt wedyn pe bai gweinyddiaeth Lafur yn San Steffan? A fyddwch chi'n gwneud y pwynt hwnnw'n rymus iawn i weinyddiaeth Lafur yn y dyfodol, nid yn unig i roi ei siâr i Gymru o unrhyw wariant yn y dyfodol, ond hefyd i roi'r £1 biliwn rydyn ni wedi'i golli'n barod drwy'r gwariant cam 1 gwerth £20 biliwn a ddigwyddodd eisoes? Nawr, roedd yn braf clywed arweinydd Plaid Lafur y DU yn ymrwymo i ddychwelyd pwerau dros gronfeydd strwythurol yn ôl i Gymru, ond a allwch chi ddweud a ydych yn disgwyl unrhyw weinyddiaeth Lafur yn y dyfodol hefyd i anrhydeddu'r ymrwymiad na fyddai Cymru yn derbyn ceiniog yn llai nag y byddai wedi'i dderbyn o dan y cyfnod rhaglennu 2020 i 2027 ar gyfer cronfeydd Ewrop? Felly, rhwng 2024 a 2027, byddai hynny'n golygu £1 biliwn yn ychwanegol o gyllid i Gymru ar ben hynny, wrth gwrs, y £1 biliwn rydych chi wedi'i nodi fel Llywodraeth yr ydym wedi'i golli rhwng 2021 a 2025.