Ansawdd Dŵr Llyn Padarn

Part of 3. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 14 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:58, 14 Mawrth 2023

Mae etholwyr wedi cysylltu efo fi yn bryderus am eu bod nhw wedi darganfod planhigyn ymledol yn tyfu yn Llyn Padarn yn Llanberis, ac maen nhw’n grediniol bod arllwysiad carthion i’r dŵr yn bwydo’r tyfiant. Mae yna arbenigwr wedi cadarnhau mai planhigyn o’r enw lagarosiphon sydd yn y llyn—rhywbeth sy’n enw newydd i mi, ond dyna mae’r arbenigwr yn dweud ydy o. Mae’r planhigion yma wedi creu problemau mewn llynnoedd yn Iwerddon, mae’n debyg. Hoffwn i sicrwydd bod eich Llywodraeth chi yn ymwybodol o’r broblem, a allai, wrth gwrs, gael effaith niweidiol ar fioamrywiaeth y llyn arbennig yma, a hoffwn sicrwydd eich bod chi’n gweithio'n agos efo asiantaethau er mwyn gweithredu’n briodol.