Part of 3. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 14 Mawrth 2023.
Diolch. Rydym yn anelu at wella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn ne-orllewin Cymru. Yn ddiweddar, rydym wedi buddsoddi mewn addasu gwasanaeth T1 TrawsCymru fel ei fod yn defnyddio fflyd drydan, ac rydym yn gweithio ar gynllun peilot arloesol sy’n defnyddio hydrogen, a fydd yn cael ei weithredu yn y rhanbarth.