Part of 3. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 14 Mawrth 2023.
Diolch, Peter Fox. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol a darparwyr trydydd sector i gynorthwyo pobl ag anghenion tai. Rydyn ni wedi darparu dros £207 miliwn ar gyfer gwasanaethau cymorth tai a digartrefedd yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, gan gefnogi awdurdodau lleol a darparwyr trydydd sector i ddarparu gwasanaethau rheng flaen i atal a lleddfu digartrefedd.