Part of 3. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 14 Mawrth 2023.
A gaf i groesawu'r ateb hwnnw? Pan wrthodwyd morlyn llanw Abertawe gan Lywodraeth Geidwadol San Steffan, roedd prisiau nwy yn isel, ac roedd y Llywodraeth yn disgwyl y bydden nhw'n aros yn isel am byth. Fel rydyn ni i gyd yn gwybod, roedden nhw'n anghywir yn hynny o beth. Fe wyddom ni fod ynni'r llanw yn ddibynadwy ac yn gallu diwallu rhai o'n hanghenion ynni ni. Fe wyddom ni hefyd nad yw'n golygu datgomisiynu costus ac nid yw ei oes yn fyr. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i argyhoeddi San Steffan y dylid comisiynu'r ynni glân, diogel hwn, sy'n gystadleuol o ran costau erbyn hyn, ac y dylid ei gomisiynu ar unwaith?