Pwysau Costau Byw

Part of 4. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 14 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 4:27, 14 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb hwnnw, Gweinidog. Rwy'n siŵr, fel fi, eich bod chi'n pryderu am y newyddion dros y penwythnos bod un o bob pum myfyriwr ym mhrifysgolion Grŵp Russell wedi ystyried rhoi'r gorau iddi oherwydd costau byw. Dychwelais i addysg fel oedolyn, gan geisio magu teulu ifanc ar yr un pryd. Roedd hi'n ddigon anodd bryd hynny. Does dim syniad gen i sut mae pobl yn mynd i ymdopi nawr. Rydych wedi sôn, wrth gwrs, am y cynnydd o 9.4 y cant mewn cymorth cynnal a chadw myfyrwyr o'i gymharu â'r 2.8 y cant gwael i fyfyrwyr yn Lloegr. Cyn hynny ym mis Medi, a oes unrhyw beth arall rydych yn ei ystyried er mwyn i ni allu cynnig cymorth i'r myfyrwyr hynny?