Part of 4. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 14 Mawrth 2023.
Mae'r 'Cwricwlwm i Gymru' yn canolbwyntio ar ddatblygu dysgwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith. Rwy'n cefnogi'n gryf bwysigrwydd sgiliau fel rhan o ddysgu a'r cyfle i ysgolion a cholegau gydweithio i ddiwallu anghenion pobl ifanc.