Part of 4. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 14 Mawrth 2023.
Wel, mae hyn yn feiddgar, yn fy marn i, gan aelod o'r unig blaid yng Nghymru i ymgyrchu yn etholiad y Cynulliad i dorri'r gyllideb addysg o 12 y cant. Mae'n dipyn o beth. Mae'n dipyn o beth, ac mae'n dangos pa mor arwynebol yw eu hymrwymiad i'r ffeithiau. I fod— [Torri ar draws.] Fe wnaethoch chi hynny, yn ddiamod, ac fe'i hamddiffynnwyd gan Andrew R.T. Davies wedi hynny. Felly, y ffeithiau yw, Peter Fox—[Torri ar draws.]