6. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 21 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:34, 21 Mawrth 2023

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi hefyd yn croesawu yr ymrwymiadau yn y datganiad yma fel rhan o'r bartneriaeth cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru. Dwi hefyd yn cytuno gyda sylwadau Mabon ap Gwynfor. Wrth ymweld â nifer o'r datblygiadau yma, mae'n anhygoel gweld gymaint o broblemau eraill sydd gyda rhai o'r datblygiadau yma, y tu hwnt i broblemau diogelwch tân. Felly, byddwn i'n gofyn yn gyntaf i chi: pryd welwn ni'r ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i'r Senedd i sicrhau bod datblygwyr ddim yn gallu parhau i ymddwyn yn y ffordd yma?