Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 22 Mawrth 2023.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n cydnabod mai aelodau awdurdodau lleol eu hunain sy'n gyfrifol am osod y dreth gyngor, ond fel y gwyddoch yng Nghonwy, mae trigolion lleol yno'n wynebu cynnydd aruthrol o 9.9 y cant yn eu biliau treth gyngor eleni, sef y cynnydd mwyaf yng Nghymru, ac un o'r mwyaf yng Nghymru a Lloegr gyfan. Ni fyddai cynnydd o'r fath yn cael ei ganiatáu pe bai'r awdurdod lleol hwnnw wedi cael yr un cyfle i gael cap wedi'i osod gennych chi yn rhan o'ch cyfrifoldeb fel Gweinidog llywodraeth leol. Ac wrth gwrs, yn Lloegr, ni allai trigolion yno sy'n wynebu cynnydd gormodol yn y dreth gyngor fod wedi gorfod eu hwynebu heb bleidlais 'ie' mewn refferendwm. A gaf fi ofyn i chi ystyried cyflwyno deddfwriaeth debyg yma yng Nghymru, fel bod modd i bobl, pan fydd pethau'n mynd o chwith gyda chynnydd sylweddol fel hyn ar adeg pan fo costau byw'n pwyso, gael cyfle i ddweud eu barn am eu treth gyngor yn lleol?