Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 22 Mawrth 2023.
Diolch. Hoffwn ofyn i chi heddiw, Weinidog, pam y gwnaed y cyhoeddiad hwn ar fyr rybudd, a pha asesiad rydych chi a Trafnidiaeth Cymru wedi’i wneud o’r tarfu a’r anghyfleustra y bydd hyn yn ei achosi? Rydych yn sôn am y berthynas rhwng San Steffan, ond hoffwn wybod beth yn union rydych chi'n ei wneud i adeiladu’r berthynas â San Steffan os ydych am weld newid. Ni allwch feio San Steffan am bopeth, Weinidog. Rydych yn mynd i orfod gwneud rhywbeth eich hun i geisio sicrhau bod anghenion pobl Cymru yn cael eu cyfleu i'n swyddogion cyfatebol yn San Steffan hefyd.