Darpariaeth Ddeintyddol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 28 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 2:02, 28 Mawrth 2023

Diolch. Llandeilo, Hwlffordd, Abergwaun—enghreifftiau o ddeintyddion yn fy rhanbarth i lle mae darpariaeth NHS wedi dod i ben dros y misoedd diwethaf. Mae'r sefyllfa ddeintyddol yng Nghymru wledig yn argyfyngus ar hyn o bryd, a'r newid, fel roeddech chi'n cyfeirio atyn nhw, yn y cytundebau diweddar, wedi achosi pryderon sylweddol, fel cafodd eu mynegi i mi mewn gohebiaeth ddiweddar gan bwyllgor deintyddol Dyfed Powys. Mae hyd yn oed deintyddion sy'n llwyddo cwrdd â gofynion y cytundebau newydd wedi nodi eu bod nhw'n gwneud hynny ar draul trin eu cleifion presennol, ac mae'r newidiadau hyn yn achosi straen, sy'n golygu bod nifer fawr o ddeintyddion bellach yn ystyried eu dyfodol fel partneriaid NHS. Ym Mhowys yn unig, mae dros 4,500 ar y rhestr aros am ddeintyddion NHS—10 y cant ohonyn nhw'n blant—ac mae mwy a mwy o deuluoedd yn wynebu dewisiadau anodd, gyda nifer yn mynd tramor i gael triniaeth.