Part of the debate – Senedd Cymru am 6:32 pm ar 28 Mawrth 2023.
Yn y misoedd diwethaf, mae Gweinidogion Cymru wedi dweud dro ar ôl tro wrth Weinidogion y Deyrnas Unedig fod angen atal y Bil yma, neu o leiaf ei newid yn fawr. Hyd yma, dydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim wedi gwneud yr un o'r ddau beth. Mae Llywodraeth Cymru yn anghytuno'n llwyr â holl fwriad y Bil. Yn gyffredinol, rydyn ni'n credu bod cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a gedwir, neu retained EU law, yn gweithio'n dda, fel yr oedd cyfraith yr Undeb Ewropeaidd cyn hynny. Wrth gwrs, byddai ei diwygio yn raddol dros amser, yn y ffordd arferol, yn gwneud synnwyr. Ond mae’r Bil yma'n creu proses frysiog o ddiwygio neu ddirymu. Mae'n gwneud hyn mewn ffordd annerbyniol: does dim ymgynghori, dim asesu effaith go iawn, a dim craffu priodol ar ddarnau unigol o'r gyfraith. Mae'n golygu y bydd darnau o retained EU law yn dod i ben heb graffu o gwbl oni bai bod camau'n cael eu cymryd i atal hynny. Dyma wastraffu amser pwysig Llywodraethau a Seneddau dim ond i gadw pethau hanfodol y byddai'r Bil fel arall yn eu dileu o'r gyfraith yn otomatig.
Yn y chwe mis ers iddo ymddangos, mae'r Bil wedi creu risg ac ansicrwydd mawr i bawb. Dydy Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig dal ddim wedi dweud yn glir pa ddarnau o'r gyfraith maen nhw am eu cadw a pha rai maen nhw am eu dileu. Mae'n bosib y bydd Gweinidogion y Deyrnas Unedig yn dileu pob darn o retained EU law erbyn diwedd eleni. Byddai hynny'n cael effaith ofnadwy yn sgil colli mesurau cymdeithasol ac amgylcheddol hanfodol. Yn lle hynny, dylem ni weld proses mwy pwyllog a chall i adolygu pob darn o retained EU law yn araf. Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig weithio gyda Llywodraethau eraill fel partneriaid cyfartal i wneud yn siŵr bod pethau'n gyson ar draws y Deyrnas Unedig, ond rydyn ni dal ddim yn gwybod sut yn union bydd hyn yn esblygu.