Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 28 Mawrth 2023.
Ym maes optometreg, rydym ni eisoes yn ehangu'r ddarpariaeth â ffocws clinigol mewn gofal sylfaenol. Mae hynny'n cael ei wneud drwy symud rhai gwasanaethau gofal llygad o'r ysbyty i'r gymuned, lle mae gweithlu medrus ar gael i ateb y galw cynyddol. Cyn bod rhai elfennau o'r diwygio yn gallu dod i rym, bydd angen gwneud newidiadau i'r rheoliadau, ac, wrth gwrs, fe fyddwn ni yn ymgynghori ar y cynigion. Yn y cyfamser, mae'r broses ar y gweill i gyflwyno gwasanaethau gan optometryddion â chymwysterau uwch, fel rhagnodi annibynnol, glawcoma a retina meddygol, gan ddefnyddio'r cyfarwyddiadau deddfwriaethol presennol. Rŷn ni'n sylweddoli mai'r llwybrau gwasanaeth hyn fydd yn cael yr effaith fwyaf o ran cefnogi gwasanaethau gofal llygad arbenigol mewn ysbytai.
Rydym ni hefyd yn gwneud cynnydd da wrth alluogi cleifion i gael mynediad uniongyrchol at lwybrau awdioleg heb gael eu cyfeirio gan feddyg teulu neu weithiwr proffesiynol arall yn y maes iechyd neu ofal cymdeithasol. I hwyluso'r newid yma, rydyn ni'n ymwneud mwy â'r trydydd sector a'r cynghorau iechyd cymuned, gan greu capasiti mewn gwasanaethau awdioleg drwy gamau cadarn i gynllunio'r gweithlu.
Mae mynediad at weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd mewn gofal sylfaenol yn flaenoriaeth hefyd, ac mae hyn yn dal i gael ei symud ymlaen drwy'r rhaglen strategol gofal sylfaenol. Ym mis Ionawr, gwnes i gyhoeddi £5 miliwn yn ychwanegol i gynyddu nifer y gweithwyr proffesiynol hyn ac i wella mynediad at wasanaethau adsefydlu yn y gymuned i helpu pobl i ddal i fod yn actif ac yn annibynnol.
Bydd yr ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i fuddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o hybiau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn bwysig wrth helpu i greu capasiti cymunedol. Drwy ein cronfa buddsoddi cyfalaf newydd, rŷn ni'n dechrau gweld cynigion yn dwyn ffrwyth, gan gynnwys hyb lles Rhiwbeina, sydd newydd gael ei gwblhau. Mae hwn yn galluogi pobl i gael gafael ar amrywiaeth fwy eang o wasanaethau iechyd, gofal a lles yn nes at adref.
Mae buddsoddiad pellach wedi ei wneud mewn nyrsio cymunedol, sef ychydig o dan £3 miliwn ers 2021. Mae hwn er mwyn datblygu ar yr hyn a gafodd ei ddysgu drwy'r cynlluniau peilot nyrsio yn y gymdogaeth. I gefnogi hyn mae'r system amserlenni electronig yn galluogi timau nyrsio ardal i wneud yn siwr bod eu gwasanaeth i gleifion yn cael ei ddarparu gan y nyrs gywir â'r sgiliau cywir bob tro.
Ar draws yr holl wasanaethau hyn mae sicrhau tegwch mynediad yn hanfodol. Mae'r Llywodraeth yma yn cydnabod yr angen i roi pwyslais penodol ar sicrhau bod grwpiau bregus yn gallu cael gafael ar wasanaethau, gan gynnwys pobl sydd yn cael eu hystyried yn fregus.
Yn ddiweddar, rydym wedi comisiynu ymchwil annibynnol i gael safbwyntiau'r cyhoedd yng Nghymru ynglŷn â mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol a beth mae mynediad da yn ei olygu iddyn nhw. Mae barn y cyhoedd yn hynod o bwysig wrth inni weithio i ddatblygu polisi sy'n cefnogi eu hanghenion gofal sylfaenol.
Yn olaf, dwi eisiau cydnabod fy niolch i i'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn gofal sylfaenol. Heb eu hymroddiad a'u hyblygrwydd nhw, fyddai dim modd darparu'r gwasanaethau dwi wedi cyfeirio atyn nhw a thrawsnewid y gwasanaethau hynny er lles pobl Cymru. Diolch.