6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 28 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:13, 28 Mawrth 2023

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ddeuddeg mis yn ôl, fe gyflwynais i gyfres o gamau i'n rhoi ni ar ben ffordd wrth daclo effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Mae bylchau cyrhaeddiad rhwng plant a phobl ifanc mewn ysgolion cynradd ac yng nghyfnod allweddol 3 sy'n cael eu heffeithio gan dlodi wedi lleihau dros amser. Mae'r cynnydd hwnnw wedi bod yn llai cyson ar gyfer dysgwyr ar lefel TGAU, ac mae effaith y pandemig yn debygol o fod wedi gwaethygu'r bylchau. Ond does dim un ateb syml. Allwn ni ddim delio gyda’r mater hwn drwy un fenter neu drwy ddiwygio un rhan o'r system; mae angen i ni weithredu ar sail system gyfan.

Yr wythnos diwethaf, fe roddais i’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd ar ein map trywydd newydd ar gyfer addysg, sef, ‘Safonau a Dyheadau Uchel i Bawb’. Mae’r map trywydd hwnnw yn nodi'r camau rŷn ni’n eu cymryd ar y cyd ar gyfer addysg. Mae’n rhaid i ni edrych ar bob cam gweithredu yn fanwl i sicrhau ein bod ni’n taclo effaith tlodi ar ddeilliannau addysgol. Heddiw, rwyf am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar y camau a gyflwynais i 12 mis yn ôl, sydd bellach yn rhan o’r map trywydd.

Y ffactor pwysicaf mewn perthynas â mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad mewn ysgolion yw sicrhau addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Rydyn ni wedi cymryd camau ar draws y system i sicrhau ein bod ni’n rhoi sylw i’r ffactor hwnnw gan fanteisio ar dystiolaeth ryngwladol o'r hyn sy'n gweithio. Mae deall effaith tlodi eisoes yn rhan o hyfforddiant cychwynnol athrawon, a byddwn ni’n cryfhau'r ffocws hwnnw. O fis Medi ymlaen, mae cymhwyster cenedlaethol ar radd Meistr mewn addysg ar gyfer athrawon sydd eisoes yn cael eu cyflogi yn cynnwys modiwl sy'n canolbwyntio ar leihau effaith tlodi, ac fe gafodd adnoddau newydd eu darparu yn ddiweddar i athrawon a chynorthwywyr addysgu. 

Mae'r dasg o gefnogi'r ymgyrch hon wedi'i rhoi i'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru ac Estyn. Mae Estyn wedi bod yn rhoi mwy o sylw i'r hyn y mae darparwyr yn ei wneud i leihau effaith tlodi ac wedi cyhoeddi arweiniad ategol newydd ar beth maen nhw'n ei arolygu. Mae gan yr academi genedlaethol rôl i sicrhau bod arweinyddiaeth ledled Cymru yn cydnabod effeithiau tlodi ac yn mynd i'r afael â'r effeithiau hynny.

Ym mis Ionawr, gyda chymorth yr academi genedlaethol, fe benodais saith pennaeth eithriadol i fod yn bencampwyr cyrhaeddiad. Maen nhw'n gweithio gydag ysgolion sy'n bartneriaid ledled Cymru i rannu eu profiad o daclo effaith tlodi mewn ysgolion yn llwyddiannus. Rwyf wedi cwrdd â nhw ddwywaith erbyn hyn, yn fwyaf diweddar ar 9 Mawrth, i gael clywed eu canfyddiadau nhw, a fydd yn llywio ein datblygiad polisi ni.